SL(5)217 - Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau drafft yn gwahardd defnyddio microbelenni fel cynhwysyn wrth weithgynhyrchu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd ac yn gwahardd gwerthu unrhyw gynhyrchion o'r fath sy'n cynnwys microbelenni.  Mae torri'r gwaharddiad hwn yn drosedd. Mae'r rheoliadau hefyd yn cyflwyno cyfundrefn sancsiynau sifil i alluogi'r rheoleiddiwr i osod ystod o sancsiynau sifil. Daw'r gwaharddiad i rym ar 30 Mehefin 2018.

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

Rheol Sefydlog 21.3 (ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

1.   Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r rheoliadau drafft hyn yn nodi mai pwrpas y ddeddfwriaeth yw gwahardd gweithgynhyrchu a chyflenwi cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig y mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn achosi llygredd a niwed i'r amgylchedd morol.

2.   Ystyr “microbelen” yw unrhyw ronyn plastig solet sy’n annhoddadwy mewn dŵr sy’n 5mm neu lai o faint mewn unrhyw fesuriad.

3.   Bydd y gwaharddiad yn cwmpasu pob cynnyrch gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig, fel y'i diffinnir yn rheoliad 2. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i: gynhyrchion a weithgynhyrchir at ddiben eu rhoi ar y corff, y croen, y dwylo, yr ewinedd, yr wyneb, y gwallt a cheudod y geg, gan gynnwys at ddiben diblisgo, glanhau, goleuo neu liwio, meddalu croen neu wallt, diarogli neu bersawru, yn ogystal â chynhyrchion baddon a chanddynt nodweddion ofal personol a chynhyrchion deintyddol.

4.   Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi mai nod y gwaharddiad yw:-

·         Atal niwed pellach i anifeiliaid morol a lleihau lefel y plastigion sy'n mynd i'n moroedd.

·         Diogelu'r amgylchedd morol a lleihau risg a difrifoldeb yr effeithiau anadferadwy posibl ar ddiogelwch bwyd ac ar iechyd dynol.

·         Parhau i annog ymdrechion gwirfoddol presennol ac arfaethedig y diwydiant i gael gwared ar ficrobelenni.

·         Meithrin hyder defnyddwyr mewn cynhyrchion na fyddant yn achosi llygredd morol.

·         Gosod esiampl i wledydd eraill ac annog i'r ddeddfwriaeth gael ei mabwysiadu yn ehangach.

5.   Bydd y Rheoliadau'n rhan o waharddiad ledled y DU. Mae Senedd y DU eisoes wedi cymeradwyo deddfwriaeth gyffelyb. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth yr Alban wedi gosod rheoliadau tebyg.

Cyfarwyddeb Safonau Technegol

6.   Er mwyn atal creu rhwystrau newydd i fasnachu o fewn yr Undeb Ewropeaidd, mae Cyfarwyddeb 2015/1535/UE yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau hysbysu'r Comisiwn ynghylch unrhyw reoliad technegol drafft cyn ei fabwysiadu.

7.   Hysbyswyd y Comisiwn ynghylch y rheoliadau drafft ar 29 Ionawr 2018.

8.   Mae tudalen 14 y Memorandwm Esboniadol yn nodi:-

The Commission provided a response to the TSD notification and noted they have requested the European Chemicals Agency (ECHA), in accordance with Article 69 (1) of the REACH Regulation to prepare an Annex XV dossier in view of a possible restriction concerning the use of synthetic water-insoluble polymers of 5mm or less in any dimension (i.e. micro plastic particles) which are intentionally added to products of any kind. ECHA entered the relevant intention into the Registry of Intentions on 17 January 2018.

The Commission note if the UK authorities proceed to adopt the notified drafts, the Commission expects them to consider the adopted national measures as provisional and to take into account the final outcome of the ongoing REACH procedures”.

9.   Mae erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb 2015/1535/UE yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau hysbysu ystyried sylwadau'r Comisiwn Ewropeaidd cyn belled ag y bo modd.

10.Gan nad yw'n gwbl glir o'r Memorandwm Esboniadol a oedd y wybodaeth a ddarparwyd yn cynrychioli sylwadau'r Comisiwn Ewropeaidd yn eu crynswth, mae Cynghorwyr Cyfreithiol y Cynulliad wedi ceisio eglurhad pellach.

11.Ni all Llywodraeth Cymru rannu ymateb y Comisiwn, ond mae wedi cadarnhau y cydymffurfiwyd â'r holl rwymedigaethau o dan gyfraith Ewropeaidd wrth ddrafftio Rheoliadau 2018, a bod y weithdrefn gyfyngu barhaus o dan  Rheoliadau Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegolion (Rheoliadau REACH) 1907/2006 yn cael ei monitro. 

12.Mae'r Pwyllgor yn nodi y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dibynnu ar ganlyniad gweithdrefn gyfyngu REACH ac unrhyw gytundeb terfynol o ran Brexit.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

25 Mai 2018